top of page

Art Tells The Story Of WW1

 

Community arts charity People Around Here (PAH)have partnered with Action in Caerau and Ely (ACE) to run 'Art tells the story of WW1' funded from The Heritage Lottery.

 

'Art tells the story of WW1' enabled young people in Ely and Caerau to explore the impact of the First World War on people in Cardiff through research of artwork created in that period. The Young people used primary sources including Staniforth’s cartoons from the Western Mail, propaganda posters and the works of Frank Brangwyn (displayed at the National Museum of Wales) to explore the impact of the First World War on Cardiff residents on the home front. They explored how wartime artists used their art form to communicate key messages.

 

The young people presented their research to older residents and asked them to share their own family’s stories, memories and photos, to explore the impact of the war on local families. They also explored the wider heritage of the impact of the war on Cardiff and developed heritage research and interpretation skills by visiting collections at Glamorgan archives and Cardiff Story Museum.

 

In response, the young people then worked with artists to develop their skills and create their own artwork, representing the heritage they had discovered.

 

The artwork produced by the young people and the heritage they have learnt about was displayed in an exhibition and on a website, and their work was celebrated with a community event.

 

The young people were supported through this process by our partners, including People Around Here, Michaelston Community College, Glamorgan Archives, Cardiff Story Museum, CAER Heritage, Cardiff University’s School of History, Archeology and Religion (SHARE) and their ‘Cartooning the First World War’ project. Local older people were encouraged to get involved through Age Concern’s Healthy, Wealthy and Wise group.

 

The young people have developed knowledge and understanding of the First World War and its impact on Cardiff residents, as well as gaining skills in interpreting and creating art. The young people took a lead role in the project, working with co-production values with all partner organizations, developing their heritage, planning and communication skills throughout.

​

Celf yn Dweud Stori’r Rhyfel Byd Cyntaf

 

Mae’r elusen gelfyddydol People Around Here(PAH) wedi creu partneriaeth gydag Gweithredu yng Nghaerau a Threlai (GCT) i redeg y prosiect ‘Celf yn dweud stori’r Rhyfel Byd Cyntaf’ wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

 

Galluogodd ‘Celf yn dweud stori’r Rhyfel Byd Cyntaf’ bobl ifanc yn Nhrelai a Chaerau i archwilio effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl yng Nghaerdydd drwy ymchwilio gwaith celf a grëwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Defnyddiodd y bobl ifanc ffynonellau gwreiddiol yn cynnwys cartwnau Staniforth o’r Western Mail. posteri propaganda a gwaith Frank Brangwyn (a ddangosir yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru) i archwilio effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar drigolion gartref yng Nghaerdydd. Gwnaethant archwilio sut yr oedd artistiaid adeg y rhyfel yn defnyddio’u ffurfiau celfyddydol i gyfleu negeseuon allweddol.

 

Cyflwynodd y bobl ifanc eu hymchwil i breswylwyr hÅ·n gan ofyn iddynt rannu storïau eu teulu hwy eu hunain, eu hatgofion a’u ffotograffau, i archwilio effaith y rhyfel ar deuluoedd lleol. Hefyd gwnaethant archwilio treftadaeth ehangach yr effaith a gafodd y rhyfel ar Gaerdydd a datblygu ymchwil treftadaeth a sgiliau dehongli drwy ymweld â chasgliadau archifau Morgannwg ac Amgueddfa Stori Caerdydd.

 

Mewn ymateb, gweithiodd y bobl ifanc wedyn gydag artistiaid i ddatblygu eu sgiliau a chreu eu gwaith celf hwy eu hunain, yn cynrychioli’r dreftadaeth yr oeddent wedi ei darganfod.

 

Dangoswyd y gwaith celf a gynhyrchwyd gan y bobl ifanc a’r dreftadaeth y maent wedi dysgu amdani mewn arddangosfa ar wefan, a dathlwyd eu gwaith drwy gyfrwng digwyddiad cymunedol.

 

Cefnogwyd y bobl ifanc drwy’r broses hon gan yr holl bartneriaid, yn cynnwys:

Gweithredu yng Nghaerau a Threlai, People Around Here, Coleg Cymunedol Michaelston, Archifau Morgannwg, Amgueddfa Stori Caerdydd, Treftadaeth CAER, Ysgol Hanes Prifysgol Caerdydd, Archeoleg a Chrefydd (SHARE) a’u prosiect ‘Gwneud Cartwnau am y Rhyfel Byd Cyntaf’. Anogwyd pobl leol hÅ·n i ymgyfrannu drwy gyfrwng y grŵp Iach, Cyfoethog a Doeth, Age Concern Cymru.

 

Mae’r bobl ifanc wedi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’i effaith ar breswylwyr Caerdydd, yn ogystal ag ennill sgiliau mewn dehongli a chreu celf.  Arweiniodd y bobl ifanc y prosiect, gan gydweithredu gyda’u holl bartneriaid, gan ddatblygu eu treftadaeth, eu sgiliau cynllunio a chyfathrebu drwy gydol y prosiect.

bottom of page